Noswaith dda a chroeso i gwefan Newid Hinsawdd Cymru.

 

Athrawon:

Cofrestrwch a mewngofnodwch i gael mynediad at daflenni dosbarth a rhannu gwybodaeth

Cofrestrwch ar-lein
neu Mewngofnodwch

Stormydd

Stormydd

Mae Cymru yn wynebu amlder mwy o stormydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.
Y ffordd ger traeth Niwgwl wedi’i gorchuddio â cherigos ar ôl storm

Ynni niwclear

Ynni niwclear yw un o’r ffyrdd mwya dadleuol o gynhyrchu trydan.  Mae gorsafoedd ynni niwclear yn gallu cynhyrchu mesurau uchel o ynni bron â bod yn ddi-baid. Mae angen nifer fawr o bobol i weithio ynddynt ac mae hyn yn creu swyddi medrus yn yr ardaloedd lle mae’r gorsafoedd. Mae’r gwrthwynebwyr yn tynnu sylw at y difrod y gellid ei achosi  gan ddamwain neu ymosodiad terfysgol, y gwastraff peryglus  sy’n cael ei gynhyrchu, ac aneffeithlonrwydd cynhyrchu mesurau sylweddol o drydan mewn lleoliadau anghysbell.

Biodanwyddau

Yn syml, nid oes digon o dir amaethyddol yn y byd i amnewid tanwyddau ffosil am fiodanwyddau. Bydd yn rhaid i ni eu defnyddio’n effeithlon, yn ogystal â defnyddio ffynonellau ynni eraill.

Beth sy’n llunio Ôl-troed Carbon?

Efallai mai dyma’r cyfraniad mwyaf amlwg at ein ôl-troed carbon.  Pan losgir tanwyddau ffosil mae’r cynnyrch CO2,  a gafodd ei gloi i fyny dros filiynau o flynyddoedd, yn cael ei ryddhau. Y cynnydd sydyn yn ein defnydd o danwydd ffosil sydd wedi achosi cynhesu byd-eang. Mwy...

Rhieni

   

1.    Mae ynni yn effeithio ar bawb: biliau tanwydd, echdynnu tanwydd ffosil, trafnidiaeth, llygredd, gwastraff, diogelwch (gwastraff niwclear), ayb. Rydyn ni'n dibynnu ar ynni am gymaint o dasgau ac oherwydd hyn mae bron yn amhosib dychmygu adeg pan na fyddwn ni'n gallu rhoi tanwydd yn ein ceir neu roi plwg y sychwr gwallt yn y soced heb feddwl y tu hwnt i'r gost.

2.    Mae tanwydd ffosil fel glo, olew a nwy naturiol yn mynd i redeg allan, maen nhw'n anadnewyddadwy.

3.    Mae'r broses o losgi tanwydd ffosil yn rhyddhau Carbon Deuocsid (CO2). Mae lefelau CO2 wedi cynyddu tua 25% yn y 200 mlynedd diwethaf (NERC – Climate Change, scientific certainties and uncertainties).

4.    Mae CO2 a Methan (CH4), a rhai nwyon eraill, yn ffurfio haenen o gwmpas y Ddaear sy'n hanfodol ar gyfer bywyd ar y Ddaear, OND, wrth losgi tanwydd ffosil i gynhyrchu trydan, ar gyfer trafnidiaeth ac o arferion amaethyddol mae'r haenen hon yn mynd yn fwy ac yn fwy ac yn dal y gwres o amgylchedd y Ddaear - dyma'r effaith tŷ gwydr uwch. Mae'r effaith uwch hon wedi newid hinsoddau byd-eang ac fe fydd yn parhau i wneud hynny.

5.    10 mlynedd yn ôl (1995) fe ddywedodd Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Mewn Hinsawdd (yr IPCC):

‘mae mantoliad y dystiolaeth yn awgrymu dylanwad dynol dirnadwy ar hinsawdd fyd-eang.’

6.    dan Brotocol Kyoto, a ddaeth i rym ar Chwefror 16eg 2005, mae'n rhaid i'r Deyrnas Unedig sicrhau gostyngiad o 12.5% yn allyriannau gwaelodlin 6 nwy tŷ gwydr o darged a osodwyd yn 1990.

7.    Wrth losgi tanwydd ffosil, mae hefyd yn rhyddhau cemegau i'r aer sy'n niweidio’r amgylchedd (glaw asid) ac fe allai beryglu iechyd pobl.

8.    Mae newid mewn hinsawdd yn debygol o arwain at ddigwyddiadau tywydd mwy eithafol; mae gwres difrifol, oerni, llifogydd a sychder yn effeithio ar bobl a bioamrywiaeth. Fe fydd premiymau yswiriant pobl mor uchel fel na fydd cartrefi wedi eu hyswirio; efallai y bydd yna wrthdaro dros fynediad at ddŵr; fe fydd lefelau'r môr yn codi wrth i rewlifoedd ac iâ'r Antarctig doddi; fe fydd pobl yn symud o ardaloedd sy'n rhy wlyb, yn rhy sych, yn rhy boeth, yn rhy oer - mae 6.5 biliwn o bobl angen byw'n rhywle

9.    Mae'r boblogaeth a'r diwydiant twristiaeth, sydd o bwysigrwydd economaidd yng Nghymru, yn ddwys ar yr arfordir a gan fod llawer o'r ardaloedd hyn yn llai nag un metr uwchben lefel y môr, mae'r tebygolrwydd o lifogydd oherwydd codiad yn lefel y môr a difrod o ganlyniad i stormydd yn uchel. Fe fydd amgylcheddau mynyddig yn colli planhigion alpaidd prin. Efallai y caiff cnydau eu dinistrio gan blâu syn gallu dioddef gaeafau cynhesach …… (Ymddiriedolaeth Arbed Ynni - Forecasting the Future, 2004)

10.                       Unwaith y bydd disgyblion yn ymwybodol o ynni fe fyddan nhw'n fwy cydwybodol ynghylch ei wastraffu trwy fesurau effeithlonrwydd syml a fydd yn arbed arian ac yn gwarchod adnoddau naturiol.

Trwy addysgu disgyblion ynghylch y defnydd o ynni, a hefyd ynghylch manteision ac anfanteision technolegau adnewyddadwy, fe fyddan nhw'n gallu gwneud dewisiadau deallus. Mae gan y Llywodraeth targed o gynhyrchu 10% o holl drydan y Deyrnas Unedig o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2010 (ar hyn o bryd, y ffigwr yw tua 3%).

 

Pembrokeshire Coast National Park Welsh Assembly Government Tyf Adventure 1% for the planet Menter Sir Benfro Countryside Council for Wales Centre for Alternative Technology Museum Wales

Dylunio . Design Hoffi: Dylunio creadigol. Syniadau dwyieithog.