Adar Cymru a newid yn yr hinsawdd
Mae’r Llywodraeth wedi cydnabod bod yr hyn sy’n digwydd i boblogaethau adar yn arwydd da o’r hyn sy’n digwydd yn yr amgylchedd. Yn y DU, mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain wedi bod wrthi ers dros 50 o flynyddoedd yn trefnu arolygon blynyddol sy’n defnyddio dulliau gweithredu safonol. Bob blwyddyn, mae’n cyhoeddi manylion am newidiadau mewn poblogaethau adar. Mae’r manylion hynny’n rhoi tystiolaeth gadarn i gyrff cadwraeth bod newidiadau ar droed. Ddwywaith y flwyddyn mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chymdeithas Adareg Cymru’n cyhoeddi dogfen gryno o’r enw “Sefyllfa Adar yng Nghymru”.
Nid yw poblogaethau adar byth yr un fath bob blwyddyn. Mae eu niferoedd yn codi ac yn disgyn yn unol â
· nifer yr ysglyfaethwyr
· clefydau
· y safleoedd nythu sydd ar gael
· y tywydd
· newid yn yr hinsawdd.

- Bod nifer yr adar sy’n marw yng Nghymru yn ystod y gaeaf yn gostwng, a bod nifer yr adar sy’n marw yn ystod y gaeaf o blith y rhywogaethau hynny sy’n treulio’r gaeaf yn Affrica yn cynyddu - mae hynny’n gysylltiedig â’r broses ddiffeithdiro;
- Bod patrymau magu’n newid – bod adar yn dodwy wyau’n gynharach ac yn dodwy llai o wyau – sy’n effeithio mwy ar y rhywogaethau sy’n mudo, nad ydynt efallai mewn cyflwr da i fagu mor gynnar;
- Bod adar yn mudo’n gynharach i Gymru ar gyfer yr haf, ond bod adar sy’n ymweld â Chymru dros y gaeaf yn mudo’n hwyrach;
- Y bydd llai o adar yn ymweld â Chymru dros y gaeaf efallai;
- Bod diffyg cydamseru â ffynhonnell fwyd yn broblem sy’n arwain at ymdrech i fagu’n gynharach; ond nad yw magu’n gynharach yn bosibl yn achos rhai adar sy’n mudo i Gymru ar gyfer yr haf, ac y gall hynny arwain at ostyngiad mewn poblogaethau;
- Bod rhywogaethau newydd yn ymgartrefu yng Nghymru;
- Bod rhai rhywogaethau’n diflannu;
- Bod cystadleuaeth yn ymddangos o du rhywogaethau eraill y mae eu poblogaethau’n cynyddu o ganlyniad i newidiadau hinsoddol;
- Bod y cefnforoedd yn newid, sy’n gysylltiedig â’r ffaith bod newidiadau mewn ceryntau cefnforoedd yn newid cadwynau bwyd.








· chyflenwadau bwyd