Bore da a chroeso i gwefan Newid Hinsawdd Cymru.

 

Athrawon:

Cofrestrwch a mewngofnodwch i gael mynediad at daflenni dosbarth a rhannu gwybodaeth

Cofrestrwch ar-lein
neu Mewngofnodwch

Stormydd

Stormydd

Mae Cymru yn wynebu amlder mwy o stormydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.
Y ffordd ger traeth Niwgwl wedi’i gorchuddio â cherigos ar ôl storm

Y Ddadl Fawr Newid Hinsawdd – Sut i chwarae eich rhan.

Mae’r pecyn hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg gyda chardiau data ar gyfer y gwledydd a’r bobl allweddol fydd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Copenhagen, map o’r byd, awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau a nodiadau i’r athro.


Mwy...

Ceir Hybrid

Bydd ceir hybrid yn defnyddio motor electronig i helpu’r injan gonfensiynol i symud y car. Ar gyflymderau araf, yr injan electronig yn unig fydd yn symud y car. Bydd hyn yn lleihau allyriannau’n sylweddol mewn ardaloedd adeiledig ac yn lleihau faint o danwydd y bydd y car yn ei ddefnyddio.

Biodanwyddau

I gynhyrchu 1kWh o wres gan ddefnyddio trydan o’r grid cenedlaethol, caiff 500g o CO2 ei gynhyrchu. I gynhyrchu’r un faint o wres gan ddefnyddio coed, dim ond 24g o CO2 a gaiff ei gynhyrchu. Ffigur oddi wrth yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol
Mwy...
 

Pelenni a sglodion, biodanwyddau ar gyfer gwres a thrydan.

Pelenni a sglodion, biodanwyddau ar gyfer gwres a thrydan.  

Gwneir pelenni coed o flawd llif, hesg eliffant, rhedyn a chynhyrchion gwastraff coed eraill.  Mae ganddynt gynnwys lleithder isel a gellir eu llosgi’n effeithiol iawn, heb greu llawer iawn o fwg.  Mae’n hawdd iawn eu trin gan ddefnyddio offer awtomataidd ac maent yn cynnig ffordd lân a chyfleus i losgi coed. Bydd unedau gwres a phŵer cyfunol yn llosgi pelenni neu sglodion i gynhyrchu trydan yn ogystal â gwres.

Gosododd Ysgol y Preseli, ysgol uwchradd yn Sir Benfro, foeler pelenni coed yn lle ei system wresogi olew, gan leihau ôl-troed carbon yr ysgol yn sylweddol.

Wood pellets being poured into the hopper of a wood burning stove

Cynhyrchir sglodion coed o wastraff coedwigaeth neu o goed coedlannu cylchdro byr.  Mae’r offer sydd ei angen i’w trin ar gyfer bwydo awtomatig yn fwy diwydiannol nag ar gyfer pelenni coed.  Maent yn cynnwys mwy o leithder na phelenni coed, ac felly nid ydynt yn llosgi mor effeithlon.  Maent yn llawer rhatach i’w cynhyrchu, a gellir gosod yr offer mewn cymunedau lleol, gan leihau costau ac allyriannau trafnidiaeth.

Pembrokeshire Coast National Park Welsh Assembly Government Tyf Adventure 1% for the planet Menter Sir Benfro Countryside Council for Wales Centre for Alternative Technology Museum Wales

Dylunio . Design Hoffi: Dylunio creadigol. Syniadau dwyieithog.