Hydrogen
Cafodd y cell danwydd hydrogen ei dyfeisio gan Sir William Robert Grove o Abertawe ym 1839.
Biodanwyddau
I gynhyrchu 1kWh o wres gan ddefnyddio trydan o’r grid cenedlaethol, caiff 500g o CO2 ei gynhyrchu. I gynhyrchu’r un faint o wres gan ddefnyddio coed, dim ond 24g o CO2 a gaiff ei gynhyrchu. Ffigur oddi wrth yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol
Mwy...
Stormydd
Mae Cymru yn wynebu amlder mwy o stormydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.
Y ffordd ger traeth Niwgwl wedi’i gorchuddio â cherigos ar ôl storm
Y Ddadl Fawr Newid Hinsawdd – Sut i chwarae eich rhan.
Mae’r pecyn hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg gyda chardiau data ar gyfer y gwledydd a’r bobl allweddol fydd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Copenhagen, map o’r byd, awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau a nodiadau i’r athro.
Mwy...
Newid Hinsawdd Cyfnod Allweddol 4
Elusen gofrestredig a leolir yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, yw Canolfan Eco Gorllewin Cymru. Rydym yn ymwneud ag effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol defnyddio ynni. Rydym yn ymddiddori’n bennaf yn y newid yn yr hinsawdd a geir o ganlyniad i ddefnyddio ynni. Mae gan wyddonwyr dystiolaeth gref fod y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchwyd gennym yn newid hinsawdd y byd.
Mae’n ym ddangos bod newyddion am Newid Hinsawdd ym mhob man y dyddiau hyn. Efallai bod gwreiddiau hyn mewn gwyddoniaeth, ond mae ganddo oblygiadau i wleidyddiaeth, arian, grym a’n bywydau personol. Dyma fydd y pwnc llosg heb os am y 100 mlynedd nesaf. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi’r wybodaeth gywir am ei effeithiau ar Gymru, er mwyn i chi allu gwneud y penderfyniadau gorau ar eich rhan eich hun a’ch cymuned.