Llinell Amser
Llinell Amser: Newid Hinsawdd
1827: Jean-Baptiste Fourier, y Ffrancwr hollddysgedig, yn rhagfynegi effaith atmosfferig sy’n cadw’r Ddaear yn gynhesach nag y byddai oni bai am hyn. Fe yw’r cyntaf i ddefnyddio cydweddiad tŷ gwydr.
1863: John Tyndall, gwyddonydd Gwyddelig, yn cyhoeddi papur sy’n disgrifio’r modd y gallai anwedd dŵr fod yn nwy tŷ gwydr.
1890au: Y gwyddonydd Swedaidd, Svante Arrhenius ac Americanwr, P C Chamberlain, yn ystyried y problemau a allai gael eu hachosi wrth i CO2 gynyddu yn yr atmosffer, a hyn ar wahân i’w gilydd. Y ddau wyddonydd yn sylweddoli y gallai llosgi tanwydd ffosil arwain at gynhesu byd-eang, ond nid oedd y naill na’r llall yn drwgdybio bod y broses efallai wedi dechrau yn barod.
1890au hyd 1940: Cyfartaledd tymheredd awyr arwynebedd yn codi tua 0.25 °C. Rhai gwyddonwyr yn gweld Powlen Lwch America fel arwydd bod yr effaith tŷ gwydr ar waith.
1940 hyd 1970: Oeri byd-eang hyd 0.2°C. Diddordeb gwyddonol yn yr effaith tŷ gwydr yn pylu. Rhai hinsoddegwyr yn rhagfynegi oes iâ newydd.
1957: Rhybudd gan yr eigionegydd, Roger Revelle, o’r UD bod y ddynoliaeth yn cynnal “arbrawf geoffisegol ar raddfa fawr” ar y blaned drwy ollwng nwyon tŷ gwydr. Ei gydweithiwr David Keeling yn sefydlu’r monitro parhaus cyntaf o lefelau CO2 yn yr atmosffer. Yn fuan canfu Keeling godiad rheolaidd o flwyddyn i flwyddyn.
1970au: Cyfres o astudiaethau gan Adran Ynni yr UD yn cynyddu’r pryderon am gynhesu byd-eang yn y dyfodol.
1979: Cynhadledd Hinsawdd Byd cyntaf yn mabwysiadu newid hinsawdd fel prif ffactor ac yn galw ar lywodraethau “i ragweld ac atal newidiadau hinsawdd posibl o waith llaw dyn.”
1985: Y gynhadledd ryngwladol fawr gyntaf ar effaith tŷ gwydr yn Villach, Awstria, yn rhybuddio y bydd nwyon tŷ gwydr “ yn rhan gyntaf y ganrif nesaf, yn achosi codiad tymheredd cymedrig byd-eang a fydd yn fwy nag unrhyw un yn hanes dyn.” Gallai hyn beri i lefelau’r môr godi hyd un medr, meddai ymchwilwyr. Nododd y gynhadledd fod nwyon, ar wahân i CO2, fel methan, oson, CFCau ac ocsid nitrus hefyd yn cyfrannu at gynhesu.
1987: Y flwyddyn dwymaf er dechrau cofnodion. Fel y digwyddodd, y 1980au oedd y ddegawd dwymaf ar gofnod, gyda saith allan o’r wyth blwyddyn gynhesaf a gofnodwyd hyd at 1990. Roedd y blynyddoedd oeraf yn yr 1980au yn gynhesach hyd yn oed na’r blynyddoedd cynhesaf yn yr 1880au.
1988: Cynhesu byd-eang yn bwrw’r penawdau ledled y byd ar ôl i wyddonwyr mewn gwrandawiadau Cyngresol yn Washington DC ddweud mai ei effaith achosodd sychder mawr yn y DU. Wedyn galwodd cyfarfod o wyddonwyr hinsawdd yn Toronto am doriad o 20% yn y gollyngiadau CO2 erbyn y flwyddyn 2005. Y Cenhedloedd Unedig yn sefydlu Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) er mwyn dadansoddi ac adrodd am ganfyddiadau gwyddonol.
1990: Adroddiad cyntaf yr IPCC yn canfod bod y blaned wedi cynhesu hyd at 0.5°C yn y ganrif ddiwethaf. Rhybuddia’r IPCC mai dim ond drwy gymryd mesurau cadarn i atal codiad mewn gollyngiadau nwy tŷ gwydr fydd yn rhwystro cynhesu byd-eang. Mae hyn yn rhoi cefnogaeth wyddonol i drefniadau’r Cenhedloedd Unedig am gynhadledd hinsawdd. Mae trafodaethau’n cychwyn ym mis Rhagfyr ar ôl Cynulliad Cyffredinol yr UD.
1991: Mynydd Pinatubo yn ffrwydro yn Ynysoedd y Philipinos, gan daflu malurion i’r stratosffer sy’n gwarchod y Ddaear rhag ynni solar, sy’n helpu i dorri ar draws y tueddiad cynhesu. Mae’r tymheredd cyfartalog yn syrthio am ddwy flynedd cyn codi eto. Gwyddonwyr yn tynnu sylw at y digwyddiad hwn sy’n dangos pa mor sensitif yw’r tymheredd byd-eang i darfiadau.
1992: Cynhadledd Newid Hinsawdd, a lofnodwyd gan 154 o genhedloedd yn Rio, yn cytuno i atal cynhesu “peryglus” nwyon tŷ gwydr ac yn gosod y targed cychwynnol i ostwng gollyngiadau’r gwledydd diwydiannol i lefelau 1990 erbyn y flwyddyn 2000.
1994: Cynghrair Gwledydd Ynysoedd Bach - llawer ohonynt yn gofidio y byddant yn diflannu o dan y don wrth i lefelau’r môr godi - yn galw am doriad hyd 20% mewn gollyngiadau erbyn y flwyddyn 2005. Bydd hyn, meddent, yn atal codiad lefel y môr ar 20 centimedr.
1995: Y flwyddyn dwymaf a gofnodwyd hyd yn hyn. Ym mis Mawrth cytunwyd ar Manda Berlin gan lofnodwyr yng nghyfarfod llawn cyntaf y Gynhadledd Newid Hinsawdd ym Merlin. Cenhedloedd diwydiannol yn cytuno ar yr angen i drafod toriadau go iawn yn eu gollyngiadau, i ddod i ben erbyn diwedd 1997.
Ym mis Tachwedd, dywedodd yr IPCC fod y cynhesu presennol yn “annhebygol o fod yn hollol naturiol ei darddiad” a bod “mantolen y dystiolaeth yn awgrymu dylanwad canfyddadwy dyn ar hinsawdd fyd-eang”. Mae ei adroddiad yn rhagfynegi y bydd tymereddau byd-eang, o dan y drefn “parhau fel y mae” wedi codi rhwng 1°C a 3.5°C erbyn y flwyddyn 2100.
1996: Yn ail gyfarfod y Confensiwn Newid Hinsawdd, cytuna’r UD am y tro cyntaf i dargedau gollyngiadau gorfodol cyfreithiol gan ochri gyda’r IPCC yn erbyn gwyddonwyr amheugar dylanwadol. Ar ôl saib o bedair blynedd, gollyngiadau byd-eang o CO2 yn ailddechrau dringo’n serth, a cheir rhybudd gan wyddonwyr na fydd y mwyafrif o wledydd diwydiannol yn bodloni cytundeb Rio i sefydlogi gollyngiadau ar lefelau 1990 erbyn y flwyddyn 2000.
1997: Protocol Kyoto yn cytuno ar doriadau gollyngiadau gorfodol cyfreithiol ar gyfer cenhedloedd diwydiannol, ar gyfartaledd o 5.4%, i’w cyrraedd erbyn 2010. Y cyfarfod hefyd yn mabwysiadu cyfres o fesuriadau hyblygrwydd, gan ganiatáu i wledydd gyrraedd eu targedau yn rhannol drwy fasnachu hawliau gollyngiadau, gan sefydlu sinciau carbon fel fforestydd i lyncu gollyngiadau, a thrwy fuddsoddi mewn gwledydd eraill. Gadewir y rheolau manwl ar gyfer trafodaethau pellach. Yn y cyfamser, dywed llywodraeth yr UD na fydd yn dilysu’r cytundeb oni welir tystiolaeth o “gyfranogiad ystyrlon” mewn lleihau gollyngiadau ar ran gwledydd sy’n datblygu.
1998: Trafodaethau dilynol yn Buenos Aires yn methu datrys anghydfodau dros “lyfr rheolau” Kyoto, ond yn cytuno ar derfyn amser ar gyfer penderfyniad erbyn diwedd 2000. 1998 yw’r flwyddyn dwymaf yn y ddegawd dwymaf yng nghanrif dwymaf y mileniwm.
2000: Gwyddonwyr yr IPCC yn ail-asesu gollyngiadau posibl y dyfodol ac yn rhybuddio, os yw pethau’n mynd o le, gallai’r byd gynhesu hyd at 6°C o fewn canrif. Atgyfnerthwyd pryderon y cyhoedd bod cynhesu byd-eang yn cynnyddu’r perygl o ddigwyddiadau tywydd eithafol gan gyfres o lifogydd mawr ar draws y byd . Ond ym mis Tachwedd, methodd trafodaethau “bwrw’r maen i’r wal” Yr Hâg â dod â mater “llyfr rheolau Kyoto" i ben a chael cytundeb ar ôl i’r UE a’r UD anghytuno. Gohiriwyd penderfyniadau hyd fis Mai 2001 ar y cynharaf.
2001: Arlywydd newydd yr UD, George W Bush, yn ymwrthod â Phrotocol Kyoto gan ei fod yn credu y byddai’n niweidio economi’r UD. Ar ôl ychydig o oedi, cytunodd cenhedloedd eraill i barhau hebddo. Trafodaethau yn Bonn ym mis Gorffennaf ac yn Marrakech ym mis Tachwedd yn dod â manylion y protocol i’w terfyn. Dywed dadansoddwyr fod tyllau yn y cynllun wedi hoelio toriadau mewn golygiadau y cytunwyd gan lofnodwyr gwledydd cyfoethog i lai nag un rhan o dair o’r addewid Kyoto gwreiddiol. Cenhedloedd sydd wedi llofnodi yn cael eu hannog i ddilysu’r protocol yn eu deddfwriaeth genedlaethol mewn da bryd er mwyn iddo ddod i rym cyn diwedd 2002.
2002: Seneddau yn yr Undeb Ewropeaidd, Siapan ac eraill yn dilysu Kyoto. Ond mae angen dilysiad gan genhedloedd sy’n gyfrifol am 55% o ollyngiadau gwledydd diwydiannol ar reolau cymhleth y protocol cyn iddynt allu ddod i rym. Ar ôl i Awstralia ymuno â’r UD gan dynnu yn ôl, gadewir Rwsia i gynnal neu wrthod y cytundeb, ond mae’n oedi. Yn y cyfamser, mae’r byd yn profi’r ail flwyddyn dwymaf ar gof.
2003: Dyma’r drydedd flwyddyn dwymaf fyd-eang ar gof, ond mae Ewrop yn cael yr haf twymaf am o leiaf 500 blwyddyn, â 30,000 o farwolaethau fel canlyniad. Cost amcangyfrifol y tywydd eithafol eleni yw $60 biliwn, sy’n record. Hefyd gwelir cynnydd amlwg yn y cyflymdra wrth i’r nwyon tŷ gwydr grynhoi. Nid yw’r gwyddonwyr yn sicr ai blip neu duedd newydd mwy bygythiol yw hyn. Yn y cyfamser mae Rwsia yn dal heb benderfynu ynglŷn â Kyoto.
2004: Ceir cytundeb ar Kyoto. Ym mis Mai cyhoedda Arlywydd Putin y bydd Rwsia yn cefnogi’r Protocol - ac mae’r UE yn cyhoeddi y bydd yn cefnogi cais Rwsia i ymaelodi â Sefydliad Masnach y Byd. Ar 18 Tachwedd, mae senedd Rwsia yn dilysu’r protocol, gan ei gwneud hi’n debygol y bydd yn dod i rym yn gynnar yn 2005.

