Aliwminiwm
Aliwminiwm
Mae aliwminiwm yn elfen gyffredin ar y ddaear ond mae’n beth prin i’w ddarganfod fel metal yn y byd naturiol.
Aliwminiwm
Mae aliwminiwm yn fetal defnyddiol oherwydd ei briodoleddau ffisegol.
Mae’n dargludo gwres a thrydan yn dda. Gellir ei drin yn rhwydd a gellid ei ddefnyddio i wneud gwrthrychau trwm ac ysgafn neu beiriannau.
Aliwminiwm
Mae aliwminiwm yn cael ei gloddio drwy doddi ei fwyn mewn deunydd toddedig arall ar dymheredd o 1000 gradd C. Yna rhoddir cerrynt trydan drwy’r toddiant a gwahenir yr aliwminiwm drwy electrolysis.
Aliwminiwm
Mae cryn dipyn o drydan yn cael ei ddefnyddio yn y broses yma, tua 16,000 kW y dunnell fetrig.
Yng Ngwlad yr Iâ, cynlluniau hydrodrydanol mawr sy’n darparu’r pwêr hwn.
Aliwminiwm
Mae Aliwminiwm Môn yn defnyddio trydan o orsaf bŵer niwcliar Yr Wylfa pan nad oes ei angen ar y Grid Cenedlaethol.
Aliwminiwm
Mae ail-gylchu aliwminiwm ond yn defnyddio 5% o’r trydan a ddefnyddir i’w gynhyrchu o’r mwyn. Mae ail-gylchu aliwminiwm hefyd yn golygu nad oes angen y tir i gloddio’r mwyn neu i waredu’r deunydd pan gaiff ei daflu.
Activities
Gweithgaredd 1
A allwch chi ddod o hyd i unrhyw aliwminiwm yn eich dosbarth?
Gweithgaredd 2
Gwnewch restr o bethau pob dydd sydd wedi eu gwneud o aliwminiwm.
Gweithgaredd 3
Ymchwiliwch y wybodaeth er mwyn cynhyrchu taflen ar sut y gwneir aliwminiwm.
Gweithgaredd
Sut defnyddir tir i gynhyrchu trydan drwy:
Hydrodrydan
Ynni Niwclear
Gweithgaredd 5
Cyfrifwch sawl kWh sydd ei angen i gynhyrchu 1 dunnell fetrig o aliwminiwm wedi ei hail-gylchu.
Gweithgaredd 6
Cyfrifwch sawl kWh sydd ei angen i gynhyrchu 1 dunnell fetrig o aliwminiwm wedi ei hail-gylchu.