Adar
Adar
Nid yw poblogaethau’n aros yr un fath bob blwyddyn, maent yn gostwng ac yn cynyddu oherwydd:y cyflenwad bwyd, nifer yr ysglyfaethwyr, afiechydon, argaeledd safleodd nythu , y tywydd, newid hinsawdd.
Adar
Mae niferoedd y Robin yn cynyddu. Gostwng mae Golfan y Coed oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth. Mae’r Cudyll Coch yn dioddef oherwydd saethu a gwenwyno.
Adar
Yn gyffredinol mae nhw’n gwneud yn well ac mae eu niferoedd yn cynyddu. Credir bod gan newid hinsawdd ran fawr i’w chwarae. Mae gaeafau cynhesach yn golygu bod mwy yn goroesi ac yna’n magu yn y gwanwyn yn eu tro.
Adar
Mae tymheredd uwch drwy’r byd yn golygu gaeafau mwynach yn y DU. Mae hyn yn ei dro yn golygu bod ein hymwelwyr haf yn gallu dod nôl yn gynt i fagu, e.e. Gwenoliaid.
Adar
Mae eraill yn dioddef oherwydd y newidiadau yn yr hinsawdd yn eu tiroedd gaeafu, ynghyd â chynefinoedd yn diflannu a lleihad yn y cyfle i nythu, fel y Gwcw.
Adar
Mae nifer fawr o fathau o adar gwahanol yma yn y gaeaef, sy’n dianc rhag hinsawdd llym eu cartrefi haf, e.e. Coch yr Adain a’r Sogiar.
Adar
Mae llai o ymwelwyr gaeaf yn dod i’r DU ac nid ydynt yn aros cyn hired oherwydd gaeafau cynhesach, gyda llai o rhew a chyfnodau dan eira. Mae’r Chwiwell yn cyrraedd yn hwyrach ac yn gadael yn gynt nag yr arferent.
Ymgartrefwyr Newydd
Mae newid hinsawdd wedi caniatâu i sawl rhywogaeth o adar ymgartrefu yng ngogledd Ewrop, gan gynnwys y DU.
Ymgartrefwyr Newydd
Ar un adeg roedd y Crëyr Bach Copog a Gwylan Môr y Canoldir yn brin iawn yn y DU, nawr maen nhw’n magu mewn sawl lle.
Activities
Newidiadau ym Mhoblogaeth Adar
Download activity