Trawslun Glan Môr
Trawslun Glan Môr
Rydym bob un wedi clywed am effeithiau cynhesu byd-eang ar ein heco-systemau cyfarwydd ond beth am y môr?
Trawslun Glan Môr
Yn anffodus mae cynhesu byd-eang yn digwydd yn y fan honno hefyd. Mae moroedd cynhesach yn golygu newidadau yng ngherrynt y cefnfor, gwahanol fesurau o fwyd a metholyddion, newidiadau ysgubol yn y boblogaeth a’r dosbarthiad morol
Trawslun Glan Môr
I weld beth sy’n byw ble, mae Biolegwyr yn cymryd eu samplau ar hyd a lled y traeth – gelwir hyn yn Drawslun.
Trawslun Glan Môr
Cylchfa Trochion, gyda chen Du, ac ambell waith melyn – dipyn yn uwch na llinell y llanw uchel.
Trawslun Glan Môr
Nid yw’r llanw yn dod mor uchel a hyn i fyny’r traeth, ond gall y dŵr hallt sblasio’r creigiau. Mae’r dŵr hallt yn anweddu sy’n golygu bod fawr ddim o ddŵr ffres.
Trawslun Glan Môr
Mae’r llanw yn mynd a dod. Ar y safle yma ar y traeth, bron a bod hanner ffordd rhwng llinell llanw isel a’r llanw uchel, mae’r organebau yn treulio 50% o’u bywydau o dan y dŵrr a 50% uwchben y dŵrr.
Trawslun Glan Môr
Mae’r amgylchedd o’r fath sy’n newid yn barhaol wedi ei gorfodi i addasu.
Llygad maharen.
Trawslun Glan Môr
Parth Gwymon – isel i canolig ar y traeth, wedi eu gorchuddio gan y llanw am gyfnodau hir.
Gwymon
Mae gwymon yn algâu, maen nhw’n ffotosyntheseiddio (pan maent o dan y dŵrr), gan wneud siwgwr. Dyma ddechrau’r cadwyni bwyd morol. Mae gan rhai pledren aer, fel hon, Gwymon Codog, i’w helpu arnofio.
Trawslun Glan Môr
O edrych ar eu canlyniadau, a’u cysylltu i’w safle ar y traeth, gall y Biolegwyr hyn pa fath o sydd ei angen ar bob organeb i fyw a sut mae nhw wedi addasu i wneud hynny.