Colled Gwres

Colled Gwres

Ydych chi wedi meddwl erioed sut mae fflasg yn gweithio?

Colled Gwres

Os rhowch rywbeth poeth mewn fflasg bydd yn cadw’n boeth.

Colled Gwres

Os rhowch rywbeth oer mewn fflasg bydd yn cadw’n oer.

Colled Gwres

Gall y fflasg wneud hyn am ei fod wedi insiwleiddio.

Colled Gwres

Mae insiwleiddio’n golygu nad yw gwres yn gallu symud yn rhwydd i fewn nac allan o’r fflasg.

Colled Gwres

Mae gwres yn symud o un man i’r llall trwy dair proses, darfudiad, dargludiad a phelydriad.

Colled Gwres

Mae insiwleiddio yn gwneud ein cartrefi a’n hysgolion yn fwy effeithlon.

Colled Gwres

Mae angen llai o ynni i wresogi adeilad er mwyn ei gynhesu yn y gaeaf a’i oeri yn yr haf os yw wedi ei insiwleiddio’n dda.

Colled Gwres

Mae deunydd insiwleiddio tebyg i wlân gwydr ffeibr yn lleihau gollyngiad gwres trwy ddargludiad.

Colled Gwres

Mae selio rhag ddrafft yn lleihau gollyngiad gwres trwy darfudiad.

Colled Gwres

Mae’r ffoil arian ar yr insiwleiddio yn lleihau gollyngiad gwres trwy belydriad.

Colled Gwres

Insiwleiddio yw’r ffordd fwyaf effeithlon o leihau ôl troed carbon adeilad.

Activities

Arbrawf 1

Dyfeisiwch arbrawf i fesur y gwres gaiff ei golli o gwpanaid o ddŵr poeth dros gyfnod o amser.

Arbrawf 1

Gwnewch graff o’ch canlyniadau. Gwnewch sylw ynglŷn â’ch graff.

Arbrawf 2

Dyluniwch arbrawf i gymharu gwahanol fathau o insiwleiddio.

Gweithgaredd

Edrychwch ar y ddelwedd thermol hwn o dŷ. O ble mae’r rhan fwyaf o’r gwres yn cael ei golli?