Gorsafoedd Pŵer

Pŵer

Mae’r rhan fwyaf o drydan y DU yn cael ei gynhyrchu mewn Gorsafoedd Pŵer Thermal.

Gorsafoedd pŵer

Mae gorsafoedd pŵer Glo, Olew, Nwy, ynni Niwclear yn orsafoedd thermol bob un. Defnyddir y tanwydd i gynhesi dŵr er mwyn creu stêm. Defnyddir y stêm yma dan bwysau i droi tyrbin.

Gorsafoedd Pŵer

Mae’r tyrbin yn troi coil mawr o wifren y tu fewn i fagnetau electro grymus. Dyma sy’n creu’r trydan.

Gorsafoedd Pŵer

Defnyddir newidyddion i gynyddu foltedd y trydan. Mae’n fwy effeithlon i gludo trydan i gartrefi a ffatrïoedd ar foltedd uchel iawn trwy geblau.

Gorsafoedd Pŵer

Mae newidydd yn agos i’r fan lle caiff y trydan ei ddefnyddio yn lleihau folteddau i’r cwsmer.

Gorsafoedd Pŵer

Mae tua 30% o ynni o’r orsaf bŵer yn cael ei golli yn y broses hon.

Gorsafoedd Pŵer

Mae gorsafoedd ynni Thermol yn gallu colli 30% o ynni ychwanegol o’r tanwydd ar ffurff gwres gwastraff.

Gorsafoedd Pŵer

Mewn Gorsaf Gwres a Phŵer Cyfunol, wedi i’r ager droi’r tyrbein a chywasgu i ddŵr poeth caiff ei ddanfon trwy bibellau wedi’u insiwleiddio i dai cyfagos.

Gorsafoedd Pŵer

Mae tua 50% o’r ynni a ddefnyddir yn ein cartrefi yn cael ei ddefnyddio i wresogi ein tai a’n dŵr. Mae defnyddio’r gwres gwastraff o’r orsaf bŵer i wneud hyn yn ffordd mwy effeithlon o ddefnyddio’r tanwydd.

Gorsafodd pŵer

Mae gorsafodd pŵer glo yn cynhyrchu tua 900g o carbon deuocsid i bob kWh o drydan a gynhyrchir.

Gorsafoedd Pŵer

Gall gweithredwyr gorsafoedd pŵer leihau’r ffigwr yma trwy gyd-danio. Dyma pan fo biomas, tebyg i gregyn cnau daear, hyd yn oed gwastraff lladd-dai yn gallu cael ei losgi fel tanwydd gyda’r glo.

Gorsafoedd Pŵer

Mae’n bosib llosgi coed yn unig mewn gorsaf bŵer thermal. Ond mae angen tir i dyfu’r coed, a rhaid cludo’r coed i’r orsaf bŵer. Mae’n fwy effeithlon i ddefnyddio coed er mwyn cynhyrchu gwres yn ein cartrefi.

Activities

Gweithgaredd 1

Darganfyddwch sut gall magnet a gwifrau droi ynni cinetig yn drydan.

Gweithgaredd 2

Defnyddiwch lyfrau dosbarth er mwyn gwybod mwy am newidyddion.

Gweithgaredd 3

Dyma injan Sterling. Lawr lwythwch y daflen wybodaeth ar sut mae’n gweithio a darganfyddwch y cysylltiad rhyngddo â CHP.

Gweithgaredd 4

Rhestrwch y ffyrdd caiff ynni ei ddefnyddio yng Nghymru. Darganfyddwch faint gaiff ei ddefnyddio fel trydan

Gweithgaredd 5

Dywedir bod llosgi coed yn garbon niwtral. Darluniwch gylch carbon ar gyfer darn o dân coed.