Effaith Albedo

Effaith Albedo

Mae golau o’r haul yn ynni.

Effaith Albedo

Pan fo’r golau hwn yn disgyn ar wrthrych mae peth ohono’n cael ei adlewyrchu

Effaith Albedo

Caiff peth o’r golau ei amsugno.

Effaith Albedo

Mae’r Albedo yn fesur o faint o olau mae arwynebedd yn ei adlewyrchu.

Effaith Albedo

Caiff ei benderfynu ar y cyfan gan liw a gwead yr arwynebedd.

Effaith Albedo

Efallai i chi weld cymaint yn gynhesach yw crys-t du ar ddiwrnod braf nag un o liw mwy golau.

Effaith Albedo

Gall yr Effaith Albedo hefyd newid ein hinsawdd. Mae gwledydd o dan eira yn adlewyrchu bron y cyfan o’r golau sy’n disgyn arno.

Effaith Albedo

Ond bydd tiroedd mwy tywyll yn amsugno bron yr holl olau mae ynni yn ei droi i wres.

Effaith Albedo

Wrth i hinsawdd y byd gynhesu, mae’r eira mewn rhai ardaloedd o’r arctig wedi toddi gan adael y ddaear oddi tano yn agored.

Effaith Albedo

Mae’r tir agored yn sugno mwy o ynni’r haul gan achosi mwy o gynhesu sy’n golygu y bydd mwy o eira’n toddi. Dyma enghraifft o adborth cadarnhaol.

Activities

Effaith Albedo

Ymchwiliwch i’r amrywiaethau tymheredd rhwng teiliau gwahanol liw wedi’u gadael yn yr haul.

Effaith Effect

Disgrifiwch yr hyn wnaethoch er mwyn sicrhau bod eich prawf yn un teg.

Effaith Albedo 2

Defnyddiwch thermomedr is-goch
i fesur tymheredd arwynebeddau amrywiol tebyg i laswellt neu darmac o amgylch eich ysgol.

Effaith Albedo

Ymchwiliwch i enghraifft arall o adborth yng nghyd destun newid hinsawdd.