Effaith Tŷ Gwydr
Effaith Tŷ Gwydr
Ynni yw golau o’r haul. Mae wedi’i greu o sbectrwm tonnau electromagnetig.
Effaith TŷGwydr
Pan fo’r golau hwn yn disgyn ar wrthrych caiff peth ohono ei adlewyrchu.
Effaith Tŷ Gwydr
Caiff peth o’r golau ei amsugno.
Mae deunydd gwahanol yn amsugno gwahanol rannau o’r sbectrwm golau.
Effaith Tŷ Gwydr
Pan fo pelydryn o olau yn taro darn o wydr mewn tŷ gwydr ar ongl serth, bydd yn pasio drwodd.
Effaith Tŷ Gwydr
Caiff peth o’r golau eu amsugno a’i droi yn wres.
Caiff peth ohono ei adlewyrchu yn ôl tuag at wydr y tŷ gwydr.
Effaith TŷGwydr
Bydd peth o’r golau sy’n taro gwydr y tŷ gwydr ar ongl fas a chaiff ei adlewyrchu yn ôl mewn i’r tŷ gwydr unwaith eto.
Effaith TŷGwydr
Golyga bod mwy o’r golau hyn yn cael ei amsugno a’i droi’n wres.
Effaith TŷGwydr
Mae’r gofod yn oer iawn. Cynhesir arwynebedd y Ddaear gan olau o’r Haul.
Effaith Tŵ Gwydr
Mae’n rhaid bod rhywbeth yn galluogi’r ddaear i gadw mwy o’r ynni oddi wrth olau’r haul.
Effaith Tŷ Gwydr
Nid yw’r Ddaear y tu fewn i dŷ gwydr. Mae gwyddonwyr yn defnyddio’r term Effaith Tŷ Gwydr i esbonio sut y mae’r broses yn gweithio.
Effaith tŷ gwydr.
Mae Nwyon Tŷ Gwydr(GHG) yn caniatáu i’r rhan fwyaf o rhannau golau haul basio drwyddynt.
Effaith Tŷ Gwydr
Pan fo golau haul yn tywyni ar y ddaear caiff peth ohono ei adlewyrchu fel golau isgoch.
Effaith Tŷ Gwydr
Mae GHG yn adlewyrchu rhannau is-goch y sbectrwm yn ôl tua’r Ddaear. Maen nhw’n galluogi atmosffer y Ddaear i gadw digon o wres i gynnal bywyd.
Carbon deuocsid
Carbon deuocsid yw’r nwy tŷ gwydr yr ydych o bosib wedi clywed amdano. Mae’n rhan o’r cylchdro carbon naturiol.
Carbon deuocsid
Rydym hefyd yn rhyddhau mesurau sylweddol ohono a fyddai wedi aros wedi ei gloi i ffwrdd pan rydym yn llosgi tanwydd ffosil.
Nwyon tŷ gwydr
Nwyon tŷ gwydr eraill yw methan, ocsid nitrus ac anwedd dŵr.
Newid hinsawdd
Mae tymheredd y byd ar gyfartaledd yn cynhesu. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod hyn o ganlyniad i weithredoedd dynol. Cred gwyddonwyr y bydd hyn yn achosi i’n hinsawdd i ddod yn fwy ansefydlog.