Pwy sy’n gyfrifol?

Pwy sy’n gyfrifol?

Rhaid i ni fod yn ymwybodol bod yr hyn a wnawn yng Nghymru yn effeithio ar bobl sy’n byw mewn rhannau eraill o’r byd.

Pwy sy’n gyfrifol?

Mae newid hinsawdd yn broblem fawr, ddyrys ac mae nifer o gwestiynau heb eu hateb. Ond mae digon o bethau y gallwn eu gwneud fel unigolion.

Pwy sy’n gyfrifol?

Ond gall fod yn anodd i wneud y newidiadau a fydd yn cyfrannu at leihau effaith newid hinsawdd. Yn enwedig os nad yw’n amlwg bod unrhyw un arall yn eu gwneud.

Pwy sy’n gyfrifol?

Yng Nghymru mae ein cyfraniad mwyaf tuag at newid hinsawdd o ganlyniad i:
Ynni a ddefnyddir yn ein tai, mannau gwaith a theithio
Yr ynni a’r llygredd arall ddaw wrth gynhyrchu’r nwyddau a brynwn.

Pwy sy’n gyfrifol?

Mae nifer ohonom yn mwynhau ein ffordd o fyw. Mae llawer o arian yn cael ei wario er mwyn ein perswadio bod angen ychydig mwy o bopeth arnom.

Pwy sy’n gyfrifol?

Ond mae nifer o bobl yng Nghymru mewn dyled neu’n gweithio oriau hir er mwyn gallu cynnal eu ffordd o fyw.

Pwy sy’n gyfrifol?

Mae pawb yn gwybod gall pobl mewn gwledydd eraill fod yn dlotach na ni, ac y bydd newid hinsawdd yn cael effaith ddifrifol arnynt, ond gall y cyfan ymddangos mor bell i ffwrdd a’n cyfraniad ni mor fach.

Pwy sy’n gyfrifol?

Ond gall “Gwneud y peth iawn” ein gwneud yn hapusach hefyd.

Pwy sy’n gyfrifol?

Bydd rhai pethau gallwn eu gwneud yn arbed arian i ni.

Pwy sy’n gyfrifol?

Bydd rhai pethau gallwn eu gwneud yn ein gwneud yn fwy iach.

Pwy sy’n gyfrifol?

Bydd rhai pethau yn ein gwneud i deimlo’n dda.

Pwy sy’n gyfrifol?

Ond gallwn wneud rhywbeth a fydd hyd yn oed yn achub bywyd rhywun

Pwy sy’n gyfrifol?

Weithiau mae gwneud y peth iawn yn costio mwy.

Pwy sy’n gyfrifol?

Mae pethau’n aml yn haws os gwnawn ni nhw gyda’n gilydd. Falle bod gan eich ysgol Bwyllgor-Eco, pam na wnewch chi ymuno â nhw? Mae pobl mewn ambell dref neu ddinas wedi penderfynu creu cynllun i’w cymuned er mwyn defnyddio llai o danwydd ffosil. Ydy’ch tref chi yn un o’r rhain?

Pwy sy’n gyfrifol?

Gall yr hyn a wnawn fel unigolion gael effaith fach, ond gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr.