Dŵr
Dŵr
Mae dros 2/3 o arwynebedd y byd o dan ddŵr ond llai na 1% ohono sy’n ddŵr ffres i’w yfed.
Dŵr
Mae dŵr glân yn hawl dynol sylfaenol. Mae dŵr glân yn hanfodol i fywyd, ond does dim dŵr gan dros biliwn o bobol y byd.
Dŵr
Mewn sawl lle drwy’r byd does gan bobl ddim modd i gael mynediad at gyflenwad dŵr.
Mae dros ddwy filiwn o bobl yn marw o afiechydon yn gysylltiedig â dŵr bob blwyddyn.
Poblogaeth Cymru gyfan yw ychydig o dan 3 miliwn (cyfrifiad 2001).
Dŵr
Ym 1976 sychodd cronfeydd dŵr Cymru a chynghorwyd pobl i brynu dŵr potel i’w babanod a’u plant ifanc.
Dŵr
Roedd yn gyfnod anodd i ffermwyr ac ymladdwyr tân wrth i’n coedwigoedd a’n rhostiroedd losgi. Trodd rhai afonydd yn ddim mwy na ffrydiau
Dŵr
Yn 2006 cyflwynwyd gorchymyn sychdwr yng Nghymru a Lloegr. Effeithiwyd ar 650,000 o bobl.
Dŵr
Yng Nghymru rydym yn defnyddio mwy o ddŵr nag erioed o’r blaen. Ar gyfartaledd mae pob un yng Nghymru yn defnyddio 150 litr o ddŵr pob dydd! Mae hyn hyd at 30 o weithiau’n fwy na’r hyn mae person cyfatebol mewn gwlad fel Senegal yn ei ddefnyddio.
Dŵr
Bydd tymheredd uwch drwy’r byd yn arwain at newidiadau yn y cylch dŵr a fydd yn creu tymhorau sych sychach a thymhorau gwlyb gwlypach.
Bydd codi lefelau’r môr yn fygythiad i ddŵr yfed diogel trwy droi dŵr daear yn fwy hallt.
Dŵr
Yn y gwledydd sy’n datblygu mae nifer fawr o fenywod a merched ifanc yn cario cymaint â 40 pwys o ddŵr ar eu pennau dros bellteroedd mawr. Gall teithiau hir i’r ffynhonau a’r afonydd yn cario llestri trwm o ddŵr achosi blinder eithafol a niwed i esgyrn a chymalau.
Dŵr
Mae prinder dŵr mewn mwy na 80 o wledydd lle mae 40% o boblogaeth y byd. Yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf mae patrymau glawiad wedi newid a bu sychder cynyddol mewn sawl gwlad lle ma prinder dŵr eisoes.
Dŵr
Mae pobl yn y byd sy’n datblygu yn ddibynol ar alwedigaethau tebyg i ffermio ac mae angen dŵr i’r cnydau.
Dŵr
Does gan y gwledydd tlawd fawr ddim adnoddau ac nid ydynt yn gallu addasu i newidiadau hinsawdd cystal a’r gwledydd mwy cyfoethog.
Dŵr
Mae nifer o’r gwledydd sy’n daytblygu yn tyfu cotwm. I wneud 1 crys-t cotwm mae angen 25 metr ciwbig o ddŵr. Rydym yn prynu mwy o ddillad yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Mae’n bosib ein bod yn defnyddio dŵr gwlad arall heb yn wybod hynny.