Ein hiechyd

Ein hiechyd

Pan wnaethoch chi ddeffro’r bore yma, roeddech fwy na thebyg mewn gwely cynnes braf. Efallai i chi gael cawod boeth a brecwast da wedi hynny.

Ein hiechyd

Rydych chi’n gwybod y byddwch, yn hwyrach yn y dydd, yn cael rhagor o fwyd a thrwy gydol y dydd bydd dŵr i’w yfed ar gael.

Ein hiechyd

Er mwyn byw mae angen
dŵr, bwyd, cysgod, gwres, cwsg

Ein hiechyd

Wrth gwrs mae angen mwy na hynny ar gyfer ein hiechyd a’n lles,amgylchedd ddiogel,teulu a ffrindiau,addysg,digon o arian ar gyfer ein hanghenion,gofal Meddygol pan fo’i angen.

Ein hiechyd

Nid yw rhai pobl yn y byd yn gallu cael gafael ar y pethau hyn ar hyn o bryd, gall newid hinsawdd olygu bydd mwy o bobl yn methu gwneud hynny.
Bydd llifogydd cynyddol, sychder, chwydd llanw a seiclonau yn dinistrio tai a thir fferm.

Ein hiechyd

Bydd tymhereddau uwch yn troi peth tir fferm yn anialwch a lleihau faint o ddŵr sydd ar gael.
Bydd lefel uwch y môr yn lleihau faint o dir fydd ar gael i’w ffermio.

Ein hiechyd

Yn ogystal â methu tyfu digon o fwyd bydd y peryglon a achosir gan newid hinsawdd yn achosi marwolaethau sydyn o ganlyniad i’r llifogydd, cyfnodau o wres uchel a ymchwydd tonnau.

Ein hiechyd

Bydd newid hinsawdd yn effeithio ar bawb!
Yn Ewrop yn 2003 bu farw 27,000 o bobl o ganlyniad i wres eithafol ac fe aed a llawer mwy i’r ysbyty.

Ein hiechyd

Yng Nghenia yn 2004 roedd sychder eithafol ac fe effeithiwyd ar 2.3 miliwn o bobl.

Ein hiechyd

Ym Mangladesh yn 2004, effeithiwyd ar 35 miliwn o bobl gan lifogydd.

Ein hiechyd

O fewn y ddegawd nesaf bydd hyd at 175 miliwn o blant yn debygol o gael eu heffeithio bob blwyddyn gan y fath o drychinebau naturiol a gaiff eu hachosi gan newid hinsawdd.

Ein hiechyd

Disgwylir i ganran o boblogaeth y byd
a fydd yn agored i malaria, un o’r lladdwyr mwyaf o blant o dan 5, i gynyddu o 45% i 60% yn y 100 mlynedd nesa oherwydd newid hinsawdd.

Ein hiechyd

Mae malaria yn arbennig o sensitif i newidiadau tymheredd a gwlybanieth. Os bydd y DU yn cynhesu gall malaria ddod yn glefyd mwy cyffredin yn enwedig yn yr ardaloedd tir gwlyb.

Ein hiechyd

Erbyn 2010 bydd 50 miliwn o bobl wedi profi dadleoli amgylcheddol, y rhan fwyaf ohonynt yn fenywod a phlant.

Ein hiechyd

Bangladesh yw un o’r gweldydd tlotaf yn y byd.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llifogydd, ymchwydd y don a seiclonau. Oherwydd bod y tir yn isel, mae’n gor-lifo’n rhwydd.

Ein hiechyd

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llifogydd, ymchwydd y don a seiclonau. Oherwydd bod y tir yn isel, mae’n gor-lifo’n rhwydd. Mae’r ffermwyr yn dibynnu ar lifogydd er mwyn ei cnydau reis ond gall gormod o lawn ddinistrio’r cnydau a chartrefi.

Ein hiechyd

Mae gwledydd datblygol yn iawn i bwyntio bys a chyhuddo gwledydd sydd wedi datblygu o achosi newid hinsawdd.

Ein hiechyd

Wrth i ni fynnu mwy o nwyddau a gwasanaethau felly hefyd rydym yn defnyddio mwy o danwydd ffosil i greu ynni ac wrth wneud hynny yn cynhyrchu mwy o nwyon tŷ gwydr.

Ein hiechyd

Bydd y gwledydd sydd wedi datblygu mwy ac sydd â gwell gofal iechyd a chynlluniau brys yn gallu dygymod yn well gyda newid hinsawdd na’r gwledydd tlotach.