Tecstilau
Ffabrig
Beth sydd a wnelo’r defnyddiau rydym yn eu prynu â newid yn yr hinsawdd?
Ym mhle y defnyddiwyd ynni?
Cotwm
Os mai cotwm yw’r defnydd
Cotwm
Cynhyrchu gwrtaith a phlaleiddiaid
Defnyddio peiriannau ar y fferm neu yn y blanhigfa
Cludo
Prosesu i wneud edau
Cotwm
Gwehyddu
Llifo a gwneud lliwiau
Cludo
Gwneud dillad a chynnyrch tecstil eraill
Cludo’r rhain
synthetigion
Os yw’r defnydd yn seiliedig ar blastig
Synthetigyn
Prosesu - mae olew’n gorfod mynd drwy nifer o brosesau er mwyn ei droi’n rhywbeth fel polyester
Nyddu i wneud edau
Gwehyddu
Llifo a gwneud lliwiau
Synthetigion
Cludo
Gwneud dillad a chynnyrch tecstil eraill
Cludo’r rhain
Golchi
Mae ynni’n cael ei ddefnyddio yn ystod oes y dilledyn. Mae’r peiriant golchi, y sychwr a’r haearn smwddio i gyd yn defnyddio gwres sy’n cael ei gynhyrchu gan drydan.
Golchi
Mae peiriannau golchi fel rheol yn cynhesu’r dŵr â thrydan, sy’n llai effeithlon na nwy, felly gallwch arbed tua 40% o’r ynni a ddefnyddir drwy olchi ar 30 yn hytrach na thymheredd uwch. Rhowch gynnig arni – mae’r dillad yn dal i ddod allan yn lân.
Golchi
Yn ychwanegol at hyn, rhowch lwyth llawn i mewn bob amser. Gallai’ch teulu hefyd sicrhau lleihad o un rhan o dair yn yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio wrth olchi dillad drwy gael peiriant golchi newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.
Sychu
Ydych chi’n defnyddio peiriant sychu bob amser, hyd yn oed pan fo’r tywydd yn braf ac yn sych? Mae gwynt a haul yn sychu dillad yn dda iawn.
Smwddio
Sut allwch chi leihau’ch gwaith smwddio?
Dŵr
A ydym yn cymryd dŵr pobl eraill?
Mae angen llawer o ddŵr i dyfu cotwm ac mae llawer o ddŵr yn cael ei lygru wrth iddo gael ei brosesu. Defnyddir 2700 litr o ddŵr i gynhyrchu un crys cotwm.
Dŵr
Mae llawer o gotwm yn cael ei dyfu mewn llefydd sy’n cael llai a llai o law o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd. Mae Môr Aral yn mynd yn llai, a hynny’n bennaf gan fod dŵr yn cael ei ddefnyddio i ddyfrhau cotwm
Môr Aral
1977
Môr Aral
1989
Môr Aral
2006
Dŵr
Mae cael digon o ddŵr glân yn hanfodol i iechyd pobl.
Activities
Trafodaeth
Rhywbeth a glywyd yn un o siopau dillad y stryd fawr yn Ne Cymru –
‘Dim ond £1.99 yw’r crysau T hyn. Fe brynaf fi 3 a fydd dim rhaid imi eu golchi nhw. Gaf fi eu taflu nhw i ffwrdd a phrynu mwy yr wythnos nesaf.’
Trafodaeth
Yma ym Mhrydain, mae pris dillad merched wedi gostwng un rhan o dair mewn 10 mlynedd.
Sut all hynny ddigwydd?
Beth mae’n ei olygu?
Pwy sydd ar ei golled?
Gweithgaredd
Edrychwch ar grys T neu bâr o jîns
Edrychwch ar gylch bywyd y dilledyn gyda’r disgyblion
Mae llai o gamau yng nghylch bywyd y crys T gan fod gan y jîns lawer o ‘ddarnau’ ychwanegol
Crys T
defnydd cotwm
lliw
edau
labeli
Jîns

denim (cotwm)
lliw
edau
sip
botymau / stydiau