Arbed egni

Arbed Ynni

Gallwn arbed ynni mewn sawl ffordd yn ein bywydau bob dydd.

Arbed Egni

Gall y ffordd rydym yn coginio wneud gwahaniaeth mawr o ran faint o ynni rydym yn ei ddefnyddio.

Arbed Ynni

Mae rhoi caeadau ar sosbenni a rhoi llai o wres oddi tanynt yn bwysig.

Arbed ynni

Mae poptai micro-don yn defnyddio llai o ynni na phoptai arferol pan fyddant yn cael eu defnyddio i gynhesu ychydig bach o fwyd.

Arbed Egni

Gallant ddefnyddio mwy o ynni mewn un ffordd os ydynt ein hannog i fwyta mwy o fwydydd wedi’u prosesu, neu fwydydd parod wedi’u rhewi.

Arbed Egni

Nid yw’n syniad da eu defnyddio i gynhesu bwydydd sydd â llawer o ddŵr ynddynt neu fwydydd sydd wedi’u rhewi.

Tegell trydan

Gall tegell trydan ddefnyddio llawer o ynni felly mae’n bwysig nad ydym yn rhoi mwy o ddŵr nag yr ydym eisiau ei ddefnyddio yn y tegell.

Tegell trydan

Os byddwn yn rhoi dwywaith gymaint o ddŵr, byddwn yn defnyddio dwywaith gymaint o ynni.

Tegell ar stôf nwy

Mae stôf nwy’n defnyddio llai o ynni na stôf drydan wrth goginio gan fod cynhyrchu trydan mewn gorsafoedd trydan mor aneffeithlon. Ond hyd yn oed wrth ferwi’r tegell ar stôf nwy mae’n dal yn bwysig peidio â rhoi mwy o ddŵr ynddo nag rydych ei angen.

Cwpan o de?

Mae’r person cyffredin yn cael 3.5 paned o de bob diwrnod. Mae hyn yn cynhyrchu 16.5kg o CO2 y flwyddyn, os ydych yn rhoi dim ond llond cwpan o ddŵr mewn tegell trydan bach.