Trafnidiaeth
Trafnidiaeth
Ydych chi wedi bod yn y garej yn nôl petrol neu ddiesel i’ch car?
Trafnidiaeth
Mae pob car, lori, bws, trên, awyren a chwch yn defnyddio tanwydd. Petrol neu ddiesel sydd fel arfer yn cael eu defnyddio.
Trafnidiaeth
Pan mae’r tanwydd yn cael ei losgi (defnyddio), mae’n creu CO2.
Trafnidiaeth
Y mwyaf o drafnidiaeth sydd ar yr heol, y mwyaf o lygredd sydd yn cael ei gynhyrchu. Mae hyn hefyd yn arwain at broblemau traffig.
Trafnidiaeth
Mae’n rhaid cael ffordd i deithio o un lle i’r llall ond mae’n bosib gwneud rhai pethau bach i leihau ar ddefnydd ein ceir.
Trafnidiaeth
Os nad ydych yn mynd yn bell, cerddwch neu ewch ar feic pedlo i arbed defnyddio’r car.
Trafnidiaeth
Os ydych yn mynd ar siwrne hirach, defnyddiwch fws neu drên os oes un ar gael. Mae’r rhain yn gallu cario llawer o bobl ac yn arbed defnyddio car heb eisiau.
Trafnidiaeth
Beth am rannu car gyda rhywun sydd yn mynd i’r un lle â chi?
Trafnidiaeth
Weithiau mae’n amhosib osgoi defnyddio’r car. Ystyriwch pob opsiwn posibl.