Defnyddio ynni

Defnyddio ynni

Yn eich cartrefi a’ch hysgolion, rydych yn defnyddio llawer o ynni.

Defnyddio ynni

Mae angen ynni i greu trydan a gwres.

Defnyddio ynni

Mae glo, olew nwy a thrydan yn cael ei ddefnyddio i roi gwres i ni. Mae’r rhain i gyd yn cynhyrchu nwy o’r enw carbon deiocsid.

Defnyddio ynni

Dyma goeden ynni -

Defnyddio ynni

Mae´r CO2 yn un o’r nwyon sy’n gwneud y ‘flanced’ o nwyon sydd o gwmpas y byd yn fwy trwchus.

Defnyddio ynni

Pan ydyn ni yn gwastraffu ynni, rydym yn cynhyrchu carbon deiocsid di-angen.

Defnyddio ynni

Mae’n bwysig ein bod yn arbed gymaint o ynni â phosib. Darganfyddwch fwy am arbed egni yn ein stori ar y wefan hon.

Defnyddio ynni

Mae’r haul yn cynhyrchu golau a gwres naturiol. Mae paneli solar yn troi y golau i mewn i drydan.

Defnyddio ynni

Mae gwynt yn gallu chwythu melinau gwynt sydd yn gallu creu trydan. Mae 18 o ffermydd gwynt wedi’u lleoli yng Nghymru.