Yr effaith tŷ gwydr
Yr effaith tŷ gwydr
Yr Haul yw unig ffynhonnell gwres allanol y Ddaear. Mae golau’r haul yn cynhesu wyneb y Ddaear yn ystod y dydd. Wrth i wyneb y Ddaear gynhesu, bydd yn rhyddhau gwres hefyd, ond ni allwn weld y gwres hwn fel y golau o’r Haul.
Yr effaith tŷ gwydr
Proses lle bydd yr haenen naturiol o nwyon yn ein hatmosffer yn dal canran fach o wres yr haul a adlewyrchir o wyneb y ddaear yw’r effaith tŷ gwydr.
Yr effaith tŷ gwydr
Mae Carbon Deuocsid yn nwy tŷ gwydr. Ceir ychydig bach ohono yn naturiol yn yr atmosffer.
Yr effaith tŷ gwydr
Mae faint o garbon deuocsid a geir yn yr atmosffer yn gysylltiedig â’r tymheredd cyfartalog byd-eang.
Yr effaith tŷ gwydr
Mae’r carbon deuocsid yn yr atmosffer wedi cynyddu’n ddramatig yn ystod y 100 mlynedd diwethaf.
Yr effaith tŷ gwydr
Bydd carbon deuocsid yn cael ei ryddhau pan gaiff tanwyddau ffosil eu llosgi.
Yr effaith tŷ gwydr
Mae anwedd dŵr, methan a nitrogen deuocsid yn nwyon tŷ gwydr pwysig hefyd.
Yr effaith tŷ gwydr
Caiff anwedd dŵr ei gynhyrchu pan fydd dŵr yn anweddu, pan fydd planhigion yn transbiradu (yn rhyddhau dŵr o’u dail) neu pan fydd anifeiliaid yn anadlu.
Gall aer cynnes gynnwys mwy o anwedd dŵr nag aer claear. Mae’r anwedd dŵr ychwanegol yn cynnig mwy o ynysiad, gan achosi cynhesu pellach.
Yr effaith tŷ gwydr
Caiff methan ei ryddhau pan fydd sbwriel yn pydru, gan anifeiliaid fferm ac o gaeau padi. Mae’n nwy tŷ gwydr nerthol iawn.
Yr effaith tŷ gwydr
Nwy tŷ gwydr a gaiff ei ryddhau pan fydd tanwyddau ffosil yn cael eu llosgi ar dymereddau uchel yw nitrogen deuocsid, ac yn aml bydd yn gysylltiedig â llygredd oherwydd trafnidiaeth.
Mae’n nwy tŷ gwydr nerthol a hir ei effaith.
Activities
Yr effaith tŷ gwydr
Download activity