Pŵer trydan dŵr

Pŵer trydan dŵr

Term arall a ddefnyddir i ddisgrifio dŵr yw ‘hydro’ ac, fel pobl, rydym wedi bod yn defnyddio dŵr fel ffynhonnell ynni ers miloedd o flynyddoedd.

Pŵer trydan dŵr

Mae dŵr o’n cwmpas ac mae’n symud drwy’r amser. Caiff dŵr ei anweddu gan wres yr haul. Bydd yr aer cynnes a llaith yn codi ac yna’n oeri fel y bydd yn cyddwyso, gan ffurfio cymylau. Bydd yn oeri ychydig mwy, gan greu glaw. Bydd y glaw yn cwympo ar y tir ac yna’n draenio i’r nentydd a’r afonydd ac yn ôl i’r môr.

Pŵer trydan dŵr

Yr olwyn ddŵr oedd y ffordd fwyaf cyffredin o ddefnyddio dŵr i gynhyrchu ynni yn y gorffennol. Sianelid y dŵr i lifo dros yr olwyn ac yna byddai’r pocedi yn yr olwyn yn llenwi â dŵr, a byddai pwysau’r dŵr yn achosi iddi droi. Yna, byddai’r olwyn yn troi peiriant fel maen melin i falu grawn.

Pŵer trydan dŵr

I greu trydan yn effeithlon, rhaid i’r generadur droi’n gyflym iawn. Bydd olwynion dŵr yn troi’n araf gyda llawer o rym. Cynllunnir tyrbinau dŵr i droi’n gyflym i gynhyrchu trydan. Cyn i’r grid cenedlaethol gyrraedd Cymru gyfan, roedd gan lawer o ffermydd anghysbell eu tyrbinau dŵr eu hunain, fel yr un yn y llun.

Pŵer trydan dŵr

Mae dŵr yn symud yn barhaus, felly mae’r holl symud hwnnw’n gyfle gwych i gynhyrchu ynni defnyddiol ar ffurf trydan dŵr. Mae ynni trydan dŵr yn defnyddio grym dŵr sy’n symud i gynhyrchu trydan.

Pŵer trydan dŵr

Mae ynni dŵr yn ffordd dda iawn o storio ynni a gynhyrchir mewn ffyrdd eraill ond nad oes ei angen ar unwaith. Mae gorsaf bŵer Dinorwig yn pwmpio dŵr o’r llyn isaf i’r llyn uchaf pan fydd gormod o ynni yn cael ei gyflenwi i’r grid. Pan fydd y galw am ynni yn uchel, caiff dŵr ei ryddhau, gan droi’r tyrbin a chynhyrchu trydan.

Pŵer trydan dŵr

Ond ceir problemau gydag argaeau mawr am fod angen boddi ardaloedd mawr o dir i storio’r dŵr, a bydd hynny’n dinistrio bywyd gwyllt ac yn golygu bod yn rhaid symud pobl allan o’u cartrefi.

Pŵer trydan dŵr

Ar hyn o bryd, mae ynni trydan dŵr ar raddfa fawr yn cyfrif am tuag 20% o gyflenwad trydan y byd. Yn y DU, mae’r ganran hon yn llawer is ar 1%.

Pŵer trydan dŵr

Fodd bynnag, yn aml, bydd angen afonydd serth sy’n llifo’n gyflym mewn rhanbarthau mynyddig ar orsafoedd ynni trydan dŵr (HEP), neu argaeau mawr sy’n dal y dŵr yn ei ôl er mwyn ei ryddhau yn ôl yr angen. Bydd hyn yn caniatáu i’r dŵr lifo i droi’r generaduron yn gyflym

Activities

Pŵer trydan dŵr

Download activity