Hinsawdd Cymru

Hinsawdd

Tywydd yw cyflwr bob dydd yr aer o’n cwmpas. Mae’n cynnwys glaw, eira, gwynt a heulwen

Hinsawdd

Hinsawdd yw amodau cyfartalog y tywydd mewn lle penodol, a fesurir gan amlaf dros 30 mlynedd.

Hinsawdd

Parthau Hinsoddol. Mae i’r byd chwe pharth hinsoddol, sef Pegynol, Tymherus, Cras,Trofannol, Môr y Canoldir, Mynyddig (neu Dwndra)

Hinsawdd

Pegynol – oer a sych iawn gydol y flwyddyn. I’w canfod ger pegwn y gogledd a phegwn y de.
ee. yr Arctig a’r Antarctig

Hinsawdd

Tymherus – gaeafau oer a hafau mwyn.
e.e. Prydain Fawr, Ffrainc

Hinsawdd

Cras – sych, poeth trwy gydol y flwyddyn.
e.e. Anialwch y Sahara

Hisawdd

Trofannol – poeth a gwlyb trwy gydol y flwyddyn
e.e. Basn Afon Amason ym Mrasil

Hinsawdd

Môr y Canoldir
– gaeafau mwyn, hafau poeth iawn

e.e. yr Eidal

Hinsawdd

Mynyddig – Oer iawn trwy gydol y flwyddyn.
e.e. yr Himalayas

Hinsawdd

Gellir disgrifio hinsawdd Cymru fel un “tymherus”. Mae Cymru’n cael hafau cynnes a gaeafau mwyn, gyda glaw trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn golygu na fydd byth yn mynd yn boeth iawn nac yn oer iawn. Bydd Cymru yn cael ei thywydd mwyaf heulog a sychaf ym misoedd Mai, Mehefin, Gorffennaf ac Awst.

Hinsawdd

Pennir hinsawdd Cymru gan, Ein Lledred,Agosrwydd at Fôr Iwerydd, Cerrynt cynnes y cefnfor a elwir yn Ddrifft Gogledd Iweryddiâp y tir (tirwedd).

Hinsawdd

Mae gwyddonwyr o’r farn y bydd hinsawdd Cymru yn newid yn ystod y 100 mlynedd nesaf.
Bydd yr hafau yn boethach ac yn sychach.
Bydd y gaeafau yn gynhesach ond yn fwy stormus.
Bydd y tymheredd cyfartalog yn cynyddu o 1.5 – 2.5 gradd. Bydd y glawiad cyfartalog yn cynyddu ryw ychydig. Ond bydd mwy o’r glaw yn cwympo yn ystod y gaeaf.
Bydd y tebygolrwydd o gael stormydd difrifol yn cynyddu 60%.

Activities

Map Meddwl yr Hinsawdd

Download activity

Gweithgareddau Hinsawdd

Download activity