Prynhawn da a chroeso i gwefan Newid Hinsawdd Cymru.

 

Athrawon:

Cofrestrwch a mewngofnodwch i gael mynediad at daflenni dosbarth a rhannu gwybodaeth

Cofrestrwch ar-lein
neu Mewngofnodwch

Newid Hinsawdd Cymru Cartref

Croeso i Newid yn yr Hinsawdd Cymru

Dewch i mewn i archwilio. Dysgwch, chwaraewch a rhyngweithiwch yn Gymraeg neu yn Saesneg.  Gobeithio y cewch yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen am Newid yn yr Hinsawdd, a’r heriau y mae’n eu rhoi i bob un ohonom.

Coeden
Gadewch neges sy’n dweud wrthym sut rydych chi’n teimlo am newid yn yr hinsawdd neu beth rydych chi neu eich ysgol yn ei wneud i leihau eich effaith ar yr hinsawdd.
 
 
Mae nwyon tŷ gwydr yn ynysu ein hatmosffer ni rhag oerni’r gofod, hebddynt byddai’r tymheredd ar y ddaear yn -15 gradd.  Canfuwyd yr effaith tŷ gwydr gan Fourier ym 1827.  Dengys cofnodion fod tymheredd byd-eang yn gysylltiedig â chyfaint CO2 yn yr atmosffer.
 
Carbon Deuocsid (CO2 ) yw’r prif nwy tŷ gwydr.  Dros y 100 mlynedd diwethaf cynyddodd y carbon deuocsid ac mae’r tymheredd byd-eang hefyd yn cynyddu. Mae gostwng maint y nwyon ynysu rydym yn eu gollwng i’r atmosffer yn allweddol i ostwng effaith newid hinsawdd.    Bydd yr hinsawdd yn parhau i gynhesu dros y 100 mlynedd nesaf, ond fe fydd yn atal y cynhesu rhag mynd allan o bob rheolaeth.
 
Newydd! - Technoleg
 
Defnyddiau Gwrthiannol
Mae’r rhan fwyaf o ynni’r byd yn dod o losgi tanwydd ffosil. Mae hyn yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr ac yn ychwanegu at y newid yn yr hinsawdd. Mae angen i ddylunwyr feddwl am yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu a defnyddio’u cynnyrch. Rhaid i waith dylunio yn y dyfodol ystyried cynnyrch sydd o fudd i bobl ac i’r blaned.
 
Bwyd
Mae bwyd yn effeithio ar y newid yn yr hinsawdd oherwydd yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio wrth ei brosesu, ei gludo a’i baratoi ac oherwydd y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau gan anifeiliaid. Mae’r dewisiadau sy’n cael eu gwneud gan dechnolegwyr bwyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r effaith hon.
 
Tecstilau
Mae angen tir, ynni a dŵr er mwyn cynhyrchu tecstilau.  Mae angen inni ddefnyddio’r adnoddau hyn yn effeithlon wrth ddylunio cynnyrch tecstil.  Gall rhai cynnyrch tecstil ein helpu i leihau gwastraff ac arbed ynni.
 
 
Er ein bod ni wedi ymdrechu i oirhrain a chydnabod pob daliwr hawlfraint, hoffem ymddiheuro am unrhyw gamgymeriad neu esgeulustra.
 
 

Adar Cymru a newid yn yr hinsawdd

Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd ar adar yn amrywio, yn dibynnu a yw’r adar hynny’n preswylio yng Nghymru, yn dod yma yn yr haf i fagu, neu’n treulio’r gaeaf yng Nghymru er mwyn osgoi tywydd caled. Mwy...

 

 

Defnyddiwch y map cwbl ryngweithiol hwn i weld sut y bydd cynnydd yn lefel y môr yn newid siâp Cymru a gwledydd eraill o amgylch y byd.Mapiau Llifogydd

Pembrokeshire Coast National Park Welsh Assembly Government Tyf Adventure 1% for the planet Menter Sir Benfro Countryside Council for Wales Centre for Alternative Technology Museum Wales

Dylunio . Design Hoffi: Dylunio creadigol. Syniadau dwyieithog.